Alun Ffred Jones AC

Cadeirydd, Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

CF99 1NA

 

6 Rhagfyr 2014

 

 

Annwyl Alun Ffred,

 

Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)

 

Fel y gwyddoch, un o’m swyddogaethau statudol o dan Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 yw adolygu digonolrwydd y gyfraith sy’n effeithio ar bobl hŷn yng Nghymru, ochr yn ochr â dyletswydd statudol i sicrhau bod buddiannau pobl hŷn yn cael eu diogelu a’u hybu.

 

Gan na chefais gyfle i ddarparu tystiolaeth lafar i’r Pwyllgor, ac ar ôl gweld adroddiad y Pwyllgor ar y Bil yn awr, roeddwn yn meddwl y byddai’n help pe bawn, fel y Comisiynydd Pobl Hŷn statudol, yn rhannu fy safbwynt ffurfiol am y Bil. 

 

Roeddwn yn glir iawn pan gyhoeddais fy Fframwaith ar gyfer Gweithredu, sy’n datgan fy mlaenoriaethau fel Comisiynydd, fy mod eisiau ac yn disgwyl gweld llesiant wrth galon gwasanaethau cyhoeddus, gan fanylu ar sut ddylai hyn ddigwydd. Mae llawer o bethau’n gyffredin rhwng fy nisgwyliadau i ar ran pobl hŷn a bwriad Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) ac felly rwyf wedi bod yn glir yn fy nghefnogaeth gadarn i’w fwriad ac i’w bwysigrwydd i’r 800,000 o bobl hŷn rwyf yn gweithredu ar eu rhan fel y Comisiynydd Pobl Hŷn annibynnol.

 

Mae adroddiad y Pwyllgor yn cyflwyno nifer o argymhellion manwl er mwyn cryfhau’r Bil. Fel Comisiynydd, mae fy ffocws i, ar ran pobl hŷn, ar sawl maes penodol, ac roeddwn yn teimlo y byddai'n ddefnyddiol i chi fod yn ymwybodol ohonynt.

 

·        Mae angen darparu datganiad cadarnach, cliriach o fwriad a chyfeiriad i gyrff cyhoeddus. 

 

·        Mae angen esbonio’r diffiniad o lesiant yn wyneb y Bil.

 

·        Rhaid esbonio a chryfhau geiriad y nodau llesiant cenedlaethol a’u disgrifyddion er mwyn sicrhau eu bod yn gwbl berthnasol i anghenion a blaenoriaethau pobl hŷn.

 

·        Mae angen adolygu’r dull o weithredu gyda chynllunio llesiant yn lleol, yn enwedig mewn perthynas â’r dull o weithredu sy’n seiliedig ar ‘iechyd ym mhob polisi’.

 

·        Ni ddylai’r Bil danseilio’r dyletswyddau presennol i warchod a diogelu gofalwyr di-dâl. Nid wyf yn teimlo bod effaith y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) ar y cyd, fel maent yn cael eu cynnig ar hyn o bryd, yn ddigonol i ddiogelu sefyllfa gofalwyr a’r rhai maent yn gofalu amdanynt, nac i warantu y bydd y camau gweithredu sy’n cael eu rhoi ar waith yn awr o dan y Mesur Gofalwyr yn parhau.

 

Rwyf wedi codi’r materion hyn gyda’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Rwyf hefyd wedi anfon briff at Aelodau'r Cynulliad i helpu gyda'r drafodaeth wrth basio'r Bil hwn.

 

Er gwaetha’r materion uchod, a'r angen am roi sylw i’r mater perthnasol i ofalwyr yn benodol, mae potensial y Bil hwn o safbwynt iechyd a lles pobl hŷn yn arwyddocaol iawn a byddwn yn fodlon darparu unrhyw gymorth pellach i’r pwyllgor, fel sy’n ddefnyddiol yn eich tyb chi.

 

 

Yn gywir,

 

 

Sarah Rochira

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru